Home / Privacy Policy Product – Welsh
Privacy Policy Product - Welsh
Polisi Preifatrwydd
Mae Pebble Learning LTD (Ni) yn ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd.
Mae’r polisi hwn (ynghyd â’n telerau defnyddio ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt ynddo) yn amlinellu’r sail ar gyfer sut byddwn yn prosesu unrhyw ddata personol yr ydym yn ei gasglu gennych, neu yr ydych yn ei ddarparu i ni. Darllenwch y wybodaeth ganlynol yn ofalus i ddeall ein barn a’n harferion ynghylch eich data personol a sut byddwn yn ei drin. Trwy ymweld â www.pebblepad.co.uk a’r holl wefannau eraill yr ydym yn berchen arnynt ac yn eu gweithredu (ein gwefan), rydych yn derbyn ac yn cydsynio i’r holl arferion a ddisgrifir yn y polisi hwn.
At ddibenion Deddf Diogelu Data 1998 (y Ddeddf), y rheolydd data yw Pebble Learning LTD yn E-Innovation Centre, Shifnal Road, Priorslee, Telford, Shropshire, TF2 9FT.
Gwybodaeth y gallwn ei chasglu gennych
Gallwn gasglu a phrosesu’r data canlynol amdanoch:
- Gwybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni. Efallai byddwch yn rhoi gwybodaeth amdanoch i ni trwy lenwi ffurflenni ar ein gwefan neu trwy ohebu gyda ni dros y ffôn, e-bost neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth yr ydych yn ei darparu pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio ein gwefan, tanysgrifio i’n gwasanaeth, chwilio am gynnyrch, cyfrannu at fyrddau trafod neu swyddogaethau cyfryngau cymdeithasol eraill ar ein gwefan, ymgeisio mewn cystadleuaeth neu’n cymryd rhan mewn hyrwyddiad neu arolwg, a phan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am broblem gyda’n gwefan. Efallai bydd y wybodaeth byddwch chi’n ei rhoi yn cynnwys eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, sefydliad, adran, swydd a gofynion dietegol.
- Gwybodaeth rydym yn ei chasglu gennych. Pob tro y byddwch yn ymweld â’n gwefan, efallai byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol:
- gwybodaeth dechnegol, gan gynnwys y cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP) a ddefnyddir i gysylltu eich cyfrifiadur â’r rhyngrwyd, eich gwybodaeth mewngofnodi, math a fersiwn eich porwr, gosodiadau ardal amser, mathau o ategion y porwr a’i fersiynau, system weithredu a llwyfan;
- gwybodaeth am eich ymweliad, gan gynnwys y llif clicio Lleolydd Adnoddau Unffurf (URL) i’n gwefan, trwyddo ac oddi yno (gan gynnwys y dyddiad a’r amser); y tudalennau yr ydych wedi eu gweld neu chwilio amdanynt; amseroedd ymateb tudalennau, camgymeriadau lawrlwytho, hyd eich ymweliadau â thudalennau penodol, gwybodaeth am ryngweithiad tudalennau (fel sgrolio, clicio a hofran y llygoden), a’r dulliau a ddefnyddir i bori oddi ar y dudalen ac unrhyw rif ffôn a ddefnyddir i ffonio ein rhif gwasanaeth cwsmeriaid.
- Gwybodaeth a dderbyniwn gan ffynonellau eraill. Efallai byddwn yn derbyn gwybodaeth amdanoch os byddwch yn defnyddio unrhyw un o’r gwefannau eraill yr ydym yn eu gweithredu, neu’r gwasanaethau eraill yr ydym yn eu darparu. Hefyd, rydym yn gweithio’n agos gyda thrydydd partïon (gan gynnwys, er enghraifft, partneriaid busnes, isgontractwyr gwasanaethau technegol, taliadau a dosbarthu, rhwydweithiau hysbysebu, darparwyr dadansoddeg, darparwyr gwybodaeth chwilio, asiantaethau cyfeirio credyd), ac efallai byddwn yn derbyn gwybodaeth amdanoch ganddyn nhw.
Cwcis
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i’ch gwahaniaethu chi rhag defnyddwyr eraill y wefan, sy’n ein helpu i bersonoli eich profiad pori. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu profiad da i chi wrth bori ar ein gwefan, ac, hefyd, mae’n ein galluogi i wella ein gwefan. I weld gwybodaeth fanwl am y cwcis rydym yn eu defnyddio a pham rydym yn eu defnyddio, ewch i’n Polisi Cwcis.
Sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth sydd gennym amdanoch yn y ffyrdd canlynol:
- Gwybodaeth rydych yn ei rhoi i ni trwy ein gwefan NEU eich cyfrif PebblePad. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon:
- i wneud ein rhwymedigaethau sy’n codi o unrhyw gontractau sy’n dechrau rhyngoch chi a ni ac i ddarparu gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau yr ydych yn gofyn amdanynt oddi wrthym;
- Gwybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni trwy ein gwefan YN UNIG. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon:
- i ddarparu gwybodaeth i chi am nwyddau a gwasanaethau eraill yr ydym yn eu cynnig sy’n debyg i’r rhai yr ydych wedi eu prynu, neu wneud ymholiadau amdanynt eisoes;
- i ddarparu gwybodaeth i chi am nwyddau neu wasanaethau yr ydym yn teimlo byddai o ddiddordeb i chi. Os ydych chi’n gwsmer yn barod, byddwn yn cysylltu â chi yn electronig yn unig (e-bost neu neges destun) gyda gwybodaeth am nwyddau a gwasanaethau sy’n debyg i’r rhai sy’n berthnasol i werthiant blaenorol neu gyd-drafod gyda chi. Os ydych yn gwsmer newydd, a phan fyddwn yn caniatáu trydydd partïon a ddewisir i ddefnyddio eich data, byddwn ni (neu nhw) yn cysylltu â chi yn electronig os byddwch wedi cydsynio i hyn yn unig. Os nad ydych chi eisiau i ni ddefnyddio eich data yn y modd hwn, na phasio eich manylion ymlaen i drydydd partïon at ddibenion marchnata, cewch gyfle i optio allan pan fyddwn yn casglu data amdanoch;
- rhoi gwybod i chi am newidiadau i’n gwasanaeth;
- Gwybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch trwy ein gwefan NEU eich cyfrif PebblePad. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon:
- i weinyddu ein gwefan ac ar gyfer gweithrediadau mewnol, gan gynnwys dibenion datrys problemau, dadansoddi data, profi, ymchwilio, ystadegol ac arolygon;
- i wella ein gwefan i sicrhau bod y cynnwys yn cael ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol ar eich cyfer chi a’ch cyfrifiadur;
- i’ch galluogi i gymryd rhan yn nodweddion rhyngweithiol ein gwasanaeth, pan fyddwch yn dewis gwneud hynny;
- fel rhan o’n hymdrechion i gadw ein gwefan yn ddiogel;
- Gwybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch trwy ein gwefan YN UNIG. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon:
- i fesur neu ddeall pa mor effeithiol yw’r hysbysebion yr ydym yn eu dangos i chi a phobl eraill, ac i gyflwyno hysbysebion sy’n berthnasol i chi;
- i wneud argymhellion ac awgrymiadau i chi a defnyddwyr eraill y wefan ynghylch nwyddau neu wasanaethau a all fod o ddiddordeb i chi neu nhw.
- Gwybodaeth rydym yn ei derbyn gan ffynonellau eraill. Efallai byddwn yn cyfuno’r wybodaeth hon â’r wybodaeth y rhoddoch i ni a gwybodaeth yr ydym yn ei chasglu gennych. Efallai byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon a’r wybodaeth gyfunol ar gyfer y dibenion a nodir uchod (gan ddibynnu ar y mathau o wybodaeth yr ydym yn eu derbyn).
Cysylltu eich cyfrif a gyriant trydydd parti
Fel defnyddiwr ein gwasanaethau, bydd gennych opsiwn i gysylltu eich cyfrif â gyriant trydydd parti fel y rhai a ddarperir gan Apple, Google a Microsoft. Os byddwch yn gwneud hyn, byddwn yn tynnu gwybodaeth o’r gyriant hwnnw i’n meddalwedd a’i wneud ar gael i chi, ond ni fydd yn cael ei addasu na’i storio yn ein meddalwedd. Gallwch analluogi’r cysylltiad hwn ar unrhyw adeg.
Datgelu eich gwybodaeth
Efallai byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag unrhyw aelod o’n grŵp, sy’n golygu ein his-gwmnïau, ein cwmni daliannol ar y cyfan a’i is-gwmnïau, fel y diffinnir yn adran 1159 Deddf Cwmnïau’r DU 2006.
Efallai byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda trydydd partïon penodol, gan gynnwys:
- Partneriaid busnes, cyflenwyr ac isgontractwyr ar gyfer cyflawni unrhyw gontract yr ydym yn ei ddechrau gyda nhw neu chi.
- Darparwyr peiriannau chwilio a dadansoddeg sy’n ein helpu i wella ac optimeiddio ein gwefan.
Efallai byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon:
- Os byddwn yn gwerthu neu’n prynu unrhyw fusnes neu asedau, ac yn yr achos hwn, efallai byddwn yn datgelu eich data personol i werthwr neu brynwr posibl busnes neu asedau o’r fath.
- Os bydd Pebble Learning LTD neu ran sylweddol o’i asedau yn cael ei gaffael gan drydydd parti, ac yn yr achos hwn, bydd y data personol sydd ganddo am ei gwsmeriaid yn un o’r asedau a drosglwyddir.
- Os oes dyletswydd arnom i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad cyfreithiol, neu er mwyn gorfodi neu gymhwyso ein telerau defnyddio a threfniadau eraill; neu i ddiogelu hawliau, eiddo neu ddiogelwch Pebble Learning LTD, ein cwsmeriaid neu bobl eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gyda chwmnïau a sefydliadau eraill at ddibenion diogelu rhag twyll a lleihau risg credyd.
Lle byddwn yn storio eich data personol
Bydd yr holl ddata a roddir i PebblePad trwy gyfrif defnyddiwr yn aros yn gyfan gwbl o fewn y diriogaeth lle cafodd ei greu.
Efallai bydd data arall a gasglwn gennych yn cael ei drosglwyddo i leoliad u tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) a’i storio yno. Hefyd, efallai bydd yn cael ei brosesu gan staff sy’n gweithredu y tu allan i’r EEA sy’n gweithio i ni neu i un o’n cyflenwyr. Efallai bydd y staff hyn ynghlwm â chyflawni eich archeb, prosesu eich manylion talu, a darparu gwasanaethau cymorth, ymysg pethau eraill. Trwy gyflwyno eich data personol, rydych yn cytuno i drosglwyddo, storio neu brosesu hyn. Byddwn yn cymryd yr holl gamau sydd eu hangen yn rhesymol i sicrhau bod eich data’n cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.
Mae’r holl wybodaeth yr ydych yn ei darparu i ni yn cael ei storio ar ein gweinyddion diogel. Bydd unrhyw drafodiadau talu yn cael eu hamgryptio gan ddefnyddio technoleg SSL. Os byddwn wedi rhoi (neu os byddwch wedi dewis) cyfrinair sy’n eich galluogi i gael mynediad at rannau penodol o’n gwefan, rydych yn gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinach. Gofynnwn i chi beidio rhannu cyfrineiriau â neb.
Yn anffodus, nid yw troslgwyddo gwybodaeth trwy’r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu eich data personol, ni allwn sicrhau diogelwch eich data sy’n cael ei drosglwyddo i’n gwefan; mae unrhyw drosglwyddiad ar eich menter eich hun. Pan fyddwn wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau a nodweddion diogelwch llym i geisio atal mynediad heb ei awdurdodi.
Pa mor hir dyn ni’n cadw eich data
Cedwir data PebblePad am y cyfnod y mae’r cyfrif yn weithredol. Yna, cedwir y data hwn am 150 diwrnod ychwanegol ar ôl cadarnhau’r cais i ddileu’r cyfrif.
Mae tocynnau cymorth yr ydym yn eu derbyn yn cael eu cadw am 5 mlynedd.
Bydd y manylion cyswllt a gesglir fel rhan o’n gweithgareddau marchnata trwy ein gwefannau yn cael eu cadw nes bydd y defnyddiwr yn gwneud cais i ni ddileu’r data sydd gennym amdanyn nhw. Bydd defnyddwyr yn gallu tynnu eu cydsyniad yn ôl neu ei ddiddymu ar gyfer prosesu eu data at ddibenion marchnata trwy’r opsiynau terfynu tanysgrifiad yn negeseuon cyfathrebu PebblePad.
Eich hawliauI
Mae gennych hawl i ofyn i ni beidio prosesu eich data personol at ddibenion marchnata. Fel arfer, byddwn yn rhoi gwybod i chi (cyn casglu eich data) os byddwn yn bwriadu defnyddio eich data ar gyfer dibenion o’r fath neu os byddwn yn bwriadu datgelu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti at ddibenion o’r fath. Gallwch arfer eich hawl i atal prosesu o’r fath trwy roi tic mewn bocsys penodol ar y ffurflenni a ddefnyddiwn i gasglu eich data. Hefyd, gallwch arfer yr hawl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni ar datasecurity@pebblepad.co.uk.
O bryd i’w gilydd, efallai bydd ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau ein rhwydweithiau partner, hysbysebwyr a chwmnïau cyswllt. Os byddwch yn dilyn dolen i unrhyw un o’r gwefannau hyn, sylwer bod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd ar gyfer y polisïau hyn. Gwiriwch y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau hyn.
Dileu eich data
Gallwch ofyn i ni i ddarparu manylion am yr holl ddata sydd gennym ni amdanoch, ac i’w dileu. Os ydych yn cael mynediad at PebblePad trwy eich prifysgol neu sefydliad arall, cysylltwch â’ch gweinyddwr PebblePad gyda’ch cais. Os ydych yn cael mynediad at PebblePad trwy gyfrif personol neu gyn-fyfyrwyr, cysylltwch â ni ar datasecurity@pebblepad.co.uk. Am wybodaeth fanylach am y broses hon, ewch i’n tudalen wybodaeth GDPR.
Newidiadau i’n polisi preifatrwydd a chyfrifon arddangos
Bydd unrhyw newidiadau a wneir i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu gosod ar y dudalen hon, a, phan fyddwn yn dewis gwneud hynny, byddwch yn cael gwybod dros e-bost. Gwiriwch eto yn am li weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i’n polisi preifatrwydd.
Cysylltu
Croesewir cwestiynau, sylwadau a cheisiadau ynghylch y polisi preifatrwydd hwn, a dylech eu hanfon at datasecurity@pebblepad.co.uk.