Home / Cookie Policy Product – Welsh
Cookie Policy Product - Welsh
Briwsion PebblePad
Mae briwsionyn yn ffeil fechan sy’n cael ei storio ar eich porwr neu yng ngyriant caled eich cyfrifiadur, os ydych chi’n cytuno i hynny. Mae briwsion yn cynnwys gwybodaeth a drosglwyddir i yriant caled eich cyfrifiadur.
Mae PebblePad yn defnyddio briwsion i wahaniaethu rhyngoch chi a defnyddwyr eraill ein rhaglen. Mae hyn yn ein helpu i roi profiad da i chi pan fyddwch yn defnyddio’n rhaglen ac mae’n caniatáu i ni wella’n safle.
Defnyddiwn y briwsion canlynol:
Briwsion cwbl angenrheidiol.
Mae’r rhain yn friwsion y mae eu hangen er mwyn i’n rhaglen weithredu. Maen nhw’n cynnwys briwsion sy’n cael eu defnyddio er mwyn i PebblePad eich adnabod chi ar ôl i chi fewngofnodi ac maen nhw’n helpu i sicrhau diogelwch eich cyfrif.
Cewch ragor o wybodaeth am y briwsion unigol a ddefnyddiwn ac at ba ddiben rydym ni’n eu defnyddio nhw yn y tabl isod:
Teitl y Briwsionyn Enw’r Briwsionyn | Diben | Mwy o wybodaeth |
Briwsion Sesiwn PebblePad: ffcd7223-4de9-4b8a-9179-f6a75f41ff0c ffcd7223-4de9-4b8a-9179-f6a75f42ff0c | Mae’r briwsion hyn yn hanfodol ar gyfer defnyddio PebblePad ac maen nhw’n eich adnabod chi yn ystod ac ar ôl mewngofnodi, gan ganiatáu i chi fynd at eich asedau yn ddiogel. | Maen nhw’n darfod pan fyddwch yn allgofnodi neu’n cau’r porwr |
Tocyn Diogelwch PebblePad: CSRF_Token | Mae’r briwsionyn hwn yn hanfodol i ddiogelwch PebblePad ac mae’n eich amddiffyn chi rhag dolenni maleisus a allai gael eu defnyddio i gyflawni gweithredoedd digroeso tra byddwch wedi mewngofnodi i PebblePad. | Mae’n darfod awr ar ôl i chi ddefnyddio PebblePad yn ddiweddaraf |
Google reCAPTCHA: NID | Mae reCAPTCHA yn ei ddefnyddio i helpu atal meddalwedd faleisus a gweithgareddau difrïol. Defnyddir yr ID unigryw i gofio dewisiadau ac, weithiau, i addasu hysbysebion. | 6 mis ar ôl y defnydd diwethaf arno |
Google reCAPTCHA: _GRECAPTCHA | Defnyddir y briwsionyn hwn i ddarparu data dadansoddi risg fel rhan o wasanaeth reCAPTCHA er mwyn nodi rhyngweithiadau awtomataidd â PebblePad. | 6 mis ar ôl y defnydd diwethaf arno |
Briwsionyn cydsynio i gynnwys planedig PebblePad: __PP_Embed_content_consent | Defnyddir y briwsionyn hanfodol hwn i gofio a yw defnyddiwr cyhoeddus wedi cydsynio i arddangos cynnwys planedig gan wasanaethau trydydd parti. | 364 o ddiwrnodau ar ôl ei osod. |
Cyflwr UI PebblePad: atlas-view-sidebar-preference mapping-sidebar-preference chart-legend-open-preference toolbar-open | Defnyddir yr eitemau storio lleol hyn i gofio cyflwr barrau ochr PebblePad o fewn y rhaglen. Dim ond ar eich cyfrifiadur yn lleol caiff y rhain eu storio a’u defnyddio ac ni chânt eu trosglwyddo i’n gyriannau. | Mae’n darfod pan fydd y defnyddiwr yn clirio storfa’i borwr ar gyfer y wefan. |
Cyflwr neges groeso PebblePad: SeenWelcomeModal | Defnyddir yr eitem storio leol hon i gofio pan fyddwch chi’n cael gwared ar y neges groeso, fel na chaiff ei dangos eto’r tro nesaf i chi fewngofnodi. | Mae’n darfod pan fydd y defnyddiwr yn clirio storfa’i borwr ar gyfer y wefan. |
Storfa gwaith heb ei arbed PebblePad | Defnyddir storfa leol i storio unrhyw newidiadau a wnewch i’ch asedau cyn iddynt gael eu hanfon i’n gweinyddion; mae hyn yn caniatáu am adfer gwaith os bydd problem. | Mae’n darfod yn awtomatig pan fydd ased defnyddiwr wedi’i arbed neu ei adfer yn llwyddiannus. |
PebblePad Arolwg boddhad defnyddwyr y Golygydd Cynnwys Cyfoethog: ck5_survey_dismissed | Defnyddir dros dro i gydnabod bod hysbysiad bwrdd gwaith ynghylch arolwg ymarferoldeb golygydd testun cyfoethog wedi’i ddiystyru. | Yn dod i ben ar 30 Tachwedd 2023 |
Briwsion Trydydd Parti Cyffredinol
Sylwch y gall y trydydd partïon canlynol ddefnyddio briwsion hefyd ac nad oes gan PebblePad unrhyw reolaeth dros y rhain. Gall y trydydd partïon hyn wedi’u henwi gael eu cynnwys fel eitemau planedig mewn cynnwys a gynhyrchwyd gan ddefnyddwyr PebblePad. Mae’r briwsion trydydd parti hyn yn debygol o fod yn friwsion dadansoddi neu’n friwsion perfformiad neu’n friwsion targedu:
Mae’n bosibl bod gan eich sefydliad ei bolisi ar wahân ei hun ar friwsion. Darllenwch bolisi preifatrwydd eich sefydliad yn uniongyrchol ar wefan y sefydliad.
Os byddwch chi’n defnyddio gosodiadau eich porwr i atal pob briwsionyn (gan gynnwys briwsion hanfodol), efallai na fyddwch chi’n gallu cyrchu rhannau o’n gwefan, neu’r cyfan ohoni.
Last updated: 23 December 2021